Daniel Craig
Mae’r actor Simon Pegg wedi datgelu ar hap mai Daniel Craig fydd yn chwarae rhan un o’r ‘Stormtroopers’ yn y ffilm Star Wars newydd.

Mae sïon y bydd Simon Pegg hefyd yn ymddangos yn y seithfed ffilm yn y gyfres, Star Wars: Episode VII – The Force Awakens.

Wrth siarad â’r wasg, dywedodd na ddylai fod wedi datgelu’r wybodaeth am rôl gudd Daniel Craig sy’n enwog am bortreadu ‘James Bond’.

Roedd y cynhyrchwyr wedi gobeithio na fyddai rôl yr actor James Bond yn cael ei ddatgelu, gan nad oes posib gweld wynebau’r cymeriadau y tu ôl i fasg gwyn y ‘Stormtroopers’.