Mae Prif Weinidog Prydain, David Cameron wedi galw ar Ipsa i ail-ystyried eu cynlluniau i roi codiad cyflog o 10% i aelodau seneddol.

Mae disgwyl i’r corff rheoleiddio gyhoeddi’r cynlluniau i roi £7,000 ychwanegol i aelodau seneddol o fewn y misoedd nesaf.

Byddai’n golygu codi cyflog aelodau seneddol o £67,060 i £74,000.

Pe bai’r cynlluniau’n cael eu cymeradwyo, byddai’r cynllun yn cael ei ôl-ddyddio i Fai 8, y diwrnod wedi’r etholiad cyffredinol.

Ond mae Cameron yn gwrthwynebu’r cynlluniau ar adeg mor llwm i’r sector cyhoeddus.

Dywedodd llefarydd ar ran David Cameron ei fod yn galw ar Ipsa i ail-ystyried y cynlluniau cyn i’r cyfnod seneddol newydd ddechrau’n swyddogol.

Cefndir

Cafodd y cynlluniau eu cyhoeddi’n wreiddiol ym mis Rhagfyr 2013 fel rhan o gyfres o ddiwygiadau.

Cafodd ei feirniadu bryd hynny gan David Cameron.

Yr unig ateb  gan y Llywodraeth fyddai cael gwared ar gorff Ipsa, a gafodd ei sefydlu yn sgil y sgandal treuliau.

Mae Cynghrair y Trethdalwyr yn dweud bod Ipsa wedi methu adfer hyder y cyhoedd ac y dylid ei ddiddymu.

Dywedodd llefarydd ar ran Ipsa: “Gwnaethon ni gynnal dau ymgynghoriad yn 2012 a 2013.

“Ym mis Rhagfyr 2013, fe benderfynon ni y dylid cyflwyno pecyn o newidiadau, gan gynnwys diwygio pensiynau, rhoi terfyn ar daliadau ail-setlo a chynyddu cyflog aelodau seneddol i £74,000.

“Ni fydd y pecyn ar y cyfan yn costio mwy i drethdalwyr.”