Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yn bwriadu penodi arweinydd newydd cyn i’r senedd ddod i ben am yr haf.

Er gwaethaf canlyniadau trychinebus i’r blaid yn yr etholiad cyffredinol, mae ganddi 5,000 o aelodau newydd ers dydd Iau.

Dim ond wyth o aelodau seneddol oedd wedi cadw eu seddi, ac mae Tim Farron a Norman Lamb ymhlith y ffefrynnau i gyflwyno’u henwau ar gyfer yr arweinyddiaeth.

Er mwyn bod yn ymgeisydd, rhaid i’r aelod gael cefnogaeth gan 10% o aelodau seneddol – sy’n golygu llai nag un person, mewn gwirionedd – yn ogystal â 200 o aelodau o 20 o ganghennau’r blaid.

Bydd yr enillydd yn cael ei ddewis mewn pleidlais, a’r canlyniad yn cael ei gyhoeddi ar Orffennaf 16.