Rolf Harris a'i ferch Bindi Nicholls
Mae merch y diddanwr Rolf Harris wedi sefydlu ymgyrch i herio’r ddedfryd o chwe blynedd o garchar a gafodd ei thad am gyfres o droseddau rhyw.

Yn ôl Bindi Nicholls, mae ei thad, sy’n 84 oed, yn “ddyn caredig, addfwyn, gonest” a gafodd ei garcharu ar gam.

Cafodd Harris ei garcharu’r llynedd am gyfres o ymosodiadau rhyw ar ferched saith ac wyth oed.

Clywodd y llys adeg ei brawf fod y merched wedi cael eu “dychryn” a’u bod nhw’n teimlo’n “frwnt ac afiach”.

Ond mae ei ferch wedi creu deiseb ar-lein yn galw ar yr awdurdodau i adolygu’r ddedfryd “ar frys”.

Ar y ddeiseb, dywed Bindi Nicholls: “Rolf Harris yw fy nhad, rwy wedi ei adnabod drwy gydol fy mywyd, mae e’n ddyn caredig, addfwyn, gonest ar y llwyfan ac oddi arno.”

Ychwanegodd fod ei thad wedi “gweithio’n ddiflino” gydol ei fywyd er lles y gynulleidfa, ac nad oedd hi erioed wedi gweld tystiolaeth o “ddiddordeb mewn plant”.

Dywedodd nad yw ei thad yn debyg i’r person “sydd wedi cael ei bortreadu gan y wasg”.

Mae 217 o bobol wedi llofnodi’r ddeiseb hyd yma.

Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron yn ymchwilio i ragor o honiadau yn erbyn Rolf Harris ers ei ddedfrydu, ond does dim penderfyniad ynghylch dwyn achos pellach ar hyn o bryd.