Mae arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Nick Clegg wedi dweud nad yw’n fodlon rhwygo’i blaid er mwyn ceisio am ail dymor mewn clymblaid gyda’r Ceidwadwyr.

Dywedodd Clegg y byddai’n “drychineb” pe bai’r blaid yn rhwygo wrth geisio cefnogi’r Torïaid.

Mae’r polau diweddaraf yn awgrymu ei bod hi’n agos iawn rhwng y Ceidwadwyr a Llafur, bedwar diwrnod yn unig cyn yr etholiad cyffredinol.

Ym mhapur newydd yr Independent on Sunday, dywedodd Clegg fod “synnwyr cryf o ddyletswydd cenedlaethol” i weithredu er lles gwledydd Prydain.

Ond eglurodd nad yw’r ddyletswydd honno o reidrwydd yn golygu clymbleidio â’r Ceidwadwyr doed a ddêl.

“Pan ydyn ni’n cael ein rhoi o dan gryn bwysau, fel dw i wedi darganfod y mae pob plaid wrth fynd i mewn i glymblaid – yr hyn ddigwyddodd bryd hynny oedd fod y pleidiau Rhyddfrydol blaenorol wedi rhwygo a dyna pryd y gwnaeth pwysau droi’n drychineb.

“A phob dydd y bûm i’n arweinydd, fe ddywedais mai’r un peth na fydda i fyth yn ei wneud fel arweinydd yw gadael i’m plaid rwygo… Fydden i byth yn gadael i’r blaid fynd i mewn i lywodraeth glymblaid yn erbyn ei hewyllys ar y cyfan.”

Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yn gwrthwynebu refferendwm ar aelodaeth gwledydd Prydain o’r Undeb Ewropeaidd – polisi y mae’r Ceidwadwyr yn ei wthio’n galed cyn yr etholiad cyffredinol ddydd Iau.

Mae David Cameron wedi galw ar gefnogwyr y Democratiaid Rhyddfrydol ac UKIP i bleidleisio mewn modd tactegol er mwyn cadw Llafur a’r SNP allan o Stryd Downing.

Mae disgwyl iddo ddweud mewn araith yn Swydd Warwick heddiw: “Dyma’r ffordd i ysbail. Fe fyddai’n drychineb i’n gwlad, i chi a’ch teulu.”