Dug a Duges Caergrawnt
Mae’r Dywysoges Catherine, Duges Caergaint, wedi rhoi genedigaeth i ferch, ei hail blentyn hi a’i gŵr, y Tywysog William.

Cafodd y ferch fach ei geni am 8.34 y bore yma yn ysbyty St Mary’s yn Llundain.

Fel gor-wyres y Frenhines Elizabeth II, y newydd-anedig yw’r bedwaredd yn yr olyniaeth i goron Lloegr, ar ôl ei brawd George, ei thad y Tywysog William, a’i thaid, y Tywysog Charles.