Stormont
Mae Gweinidog Iechyd Gogledd Iwerddon wedi ymddiswyddo yn dilyn sylwadau dadleuol a wnaeth am briodasau hoyw.

Fe fydd Jim Wells yn gadael ei swydd yn Stormont ar 11 Mai.

Dywedodd mewn datganiad ei fod wedi gwneud cais i ymddiswyddo am fod ei wraig yn ddifrifol wael ac mai ei ddyletswydd gyntaf oedd edrych ar ôl ei wraig a’i deulu.

Cafodd Jim Wells ei orfodi i ymddiheuro wythnos diwethaf ar ôl iddo honni bod plant yn fwy tebygol o gael eu cam-drin mewn teuluoedd lle’r oedd y berthynas yn ansefydlog.

Cafodd ei ffilmio mewn digwyddiad yn Ne Down yn dweud “mae’r ffeithiau’n dangos eich bod chi yn bendant ddim yn magu plentyn mewn perthynas hoyw.”

Ddoe, fe gadarnhaodd yr Heddlu yng Ngogledd Iwerddon (PSNI) eu bod nhw’n ymchwilio i ddigwyddiad honedig yn ystod hysting yn Rathfriland yn Sir Down.

Mae Jim Wells yn sefyll fel ymgeisydd ar ran y DUP yn Ne Down.

Yr ymgeiswyr eraill yw Felicity Buchan (Ceidwadwyr), Chris Hazzard (Sinn Fein), Harold McKee (UUP), Henry Reilly (Ukip), Margaret Ritchie (SDLP) a Martyn Todd (y blaid Alliance).

Dywedodd arweinydd y DUP Peter Robinson ei fod yn parchu penderfyniad Jim Wells i gamu o’i swydd.