Mae’r joci Leighton Aspell wedi ennill  y Grand National am yr ail flwyddyn yn olynol y prynhawn yma gyda’i geffyl Many Clouds.

Roedd ei fuddugoliaeth yn siom i’r miloedd lawer a oedd wedi cefnogi’r pencampwr A P McCoy a Shutthefrontdoor – ond yn rhyddhad mawr i’r bwcis.

Roed mwy wedi betio ar McCoy nag ar unrhyw joci arall yn y Grand National ers blynyddoedd maith, ac fe fyddai’r bwcis wedi colli miliynau petai wedi ennill. Pumed yn y ras oedd Shutthefrontdoor.

Meddai David Williams o Ladbrokes:

“Mae wedi bod yn Grand National gwych arall inni.

“Roedden ni’n cefnogi pob ceffyl ond Shutthefrontdoor. Hwn oedd yr unig un yr oedden ni’n chwysu yn ei gylch a phan ddechreuodd flino fe ddechreuon ninnau ymlacio.

“Wrth i Many Clouds groesi’r llinell, roedden ni’n gwybod ein bod ni ar yr ochr iawn i £30 miliwn a oedd yn y fantol i’r diwydiant betio.”