Jeremy Clarkson
Ni fydd Jeremy Clarkson yn wynebu ymchwiliad gan yr heddlu ynglŷn â’i ymosodiad ar gynhyrchydd y rhaglen Top Gear mewn gwesty, meddai Heddlu Gogledd Swydd Efrog heddiw.

Dywedodd yr heddlu eu bod nhw wedi cwblhau eu hymchwiliadau i’r digwyddiad ond na fyddan nhw’n cymryd camau pellach yn erbyn y cyn-gyflwynydd.

Dywedodd y cynhyrchydd Oisin Tymon wythnos diwethaf nad oedd am ddwyn cyhuddiad yn erbyn Clarkson.

Bu’n rhaid iddo gael triniaeth yn yr ysbyty ar ôl i Clarkson ei daro yn ei wyneb yn ystod y digwyddiad ar 4 Mawrth.

Cafodd Clarkson i wahardd o’i waith gan y BBC ar 10 Mawrth cyn i’r gorfforaeth gyhoeddi na fyddai’n adnewyddu ei gytundeb.

Er gwaethaf deiseb a gafodd ei arwyddo gan dros filiwn o bobl yn galw ar y BBC i adnewyddu ei gytundeb, dywedodd cyfarwyddwr cyffredinol y BBC, Tony Hall, bod Clarkson wedi “croesi’r llinell”.