Y Swyddfa Dramor, Llundain
Mae Prydeiniwr wedi’i arestio yn Nhwrci, yn ystod ymgyrch yn erbyn grwp o eithafwyr sy’n cael eu cysylltu â marwolaeth un o erlynwyr y wlad.

Fe gafodd y deilydd pasbort Prydeinig, o dras Bwylaidd, ei arestio ddydd Sadwrn fel rhan o ymgyrch yn erbyn grwp y DHKP-C (Ffrynt Plaid Chwyldroadol Rhyddhau’r Bobol).

“Gallwn gadarnhau fod Prydeiniwr wedi’i arestio yn Nhwrci, ac rydyn ni’n gynnig pob cymorth a chyngor,” meddai llefarydd ar ran y Swyddfa Dramor.

Roedd aelodau o’r grwp wedi cymryd un o brif erlynwyr Twrci yn wystl yr wythnos ddiwetha’. Fe saethpwyd Mehmet Selim Kiraz a’r rheiny oedd yn ei ddal yn gaeth, mewn brwydr gyda’r heddlu.

Mae’r DHKP-C yn grwp sy’n cael ei enwi yn sefydliad terfysgol gan yr Unol Daleithiau, yr Undeb Ewropeaidd a Thwrci.