Mae dyn sy’n cael ei amau o yrru ei gar yn fwriadol i mewn i wal o flaen siop, cyn rhedeg trwy’r lle yn noeth gyda bat criced yn ei law, wedi cael ei gadw yn y ddalfa gan heddlu yn Yr Alban.

Fe ddigwyddodd hyn, yn honedig, am 2.35yp ddoe, a hynny yn siop deganau Toys R Us yn Dundee.

Fe gafodd dynes ei hanafu yn ei hwyneb yn ystod y digwyddiad, ac fe fu’n rhaid iddi dderbyn triniaeth feddygol.

Mae Heddlu’r Alban yn apelio ar i unrhyw dystion gysylltu ar y rhif ffôn 101.