Roedd cyn-Brif Weinidog y Deyrnas Unedig, Margaret Thatcher, yn defnyddio’r enw ffug ‘Mrs Stone’ pan oedd hi’n teithio i’r Unol Daleithiau.

Dyna y mae dogfennau swyddogol sydd bellach ar gael i’w darllen, yn ei awgrymu.

Mae ffeil o ddogfennau cyfrinachol o Swyddfa Wladol yr Unol Daleithiau yn dangos fod Mrs Thatcher yn teithio dan yr enw hwnnw yn 2002 pan ar ei ffordd i Miami.

Fe ddaeth y wybodaeth i olau dydd wedi cais Rhyddid Gwybodaeth gan Shawn Musgrave, golygydd prosiectau ar wefan muckrock.com.

Mae’r ddogfen sydd wedi’i rhyddhau yn dangos neges gan y Llysgenhadaeth yn Llundain i Ysgrifennydd Gwladol yr Unol Daleithiau, dan y teitl, “Protective security – travel of Margaret Thatcher to the US”.