Mae cwmni siopau Marks and Spencer wedi cael newyddion da gyda chynnydd yng ngwerthiant dillad yn ystod y chwarter diwetha’.

Tros y blynyddoedd diwetha’, mae’r adran ddillad wedi colli tir yn gynson wrth i siopwyr droi cefn gan ddweud fod y ffasiynau’n hen ffasiwn ac anniddorol.

Ond, yn eu canlyniadau diweddara’, mae’r cwmni’n dweud bod gwerthiant dillad wedi codi 0.7% yn yr 13 wythnos hyd at ddiwedd mis Mawrth.

A bwyd hefyd

Roedd cynnydd tebyg hefyd yng ngwerthiant bwyd – yr adran sydd wedi bod yn cynnal perfformiad y busnes yn ystod y blynyddoedd diwetha’.

Mae’n debyg fod cyfnod Dydd San Ffolant wedi bod yn arbennig o lewyrchus o ran bwyd.

Yn ôl y cwmni, mae cwsmeriaid dillad wedi ymateb i newidiadau mewn “steiliau ac ansawdd”.