Fe fydd staff yng Nghastell Windsor yn penderfynu trwy bleidlais p’un ai fyddan nhw’n gweithredu’n ddiwydiannol ai peidio. Maen nhw’n anhapus gyda’u cyflogau.

Ond hyd yn oed pe baen nhw’n cefnogi gweithredu’n ddiwydiannol, does dim disgwyl go iawn iddyn nhw streicio.

Mae’r ffrae yn cylchdroi o gwmpas oddeutu 120 o weithwyr o adran gwasanaethau ymwelwyr y castell, sy’n cynnwys tywyswyr swyddogol a staff y gegin.

Dywedodd ysgrifennydd cyffredinol y PCS, Mark Serwotka: “Mae’r gweithwyr hyn yn ffyddlon i’w cyflogwyr ac yn llwyr ymroddedig i sicrhau bod ymwelwyr yn cael eu trin fel brenhinoedd.

“Mae’n sgandal fod y staff yn derbyn cyflogau pitw a bod disgwyl iddyn nhw weithio’n rhad ac am ddim er mwyn gwneud arian i’r teulu brenhinol.”