Fe fydd heddwas yn ymddangos yn y llys heddiw, wedi’i gyhuddo o lofruddio ei wraig.
Mae PC Otis Goldsmith, 49, wedi’i gyhuddo o ladd ei wraig, Jill, ar dir yr heddlu.
Fe gafodd Otis Goldsmith, sydd wedi treulio 28 mlyned yn blismon, ei arestio wedi i’r heddlu gael eu galw i gartre’ yn Wootton Hall Park, Northampton, ddydd Iau.
Bydd yn ymddangos yn Llys Ynadon Corby heddiw.
Fe gynhaliwyd prawf post mortem ar y corff ddoe, ac fe ddaeth cadarnhad mai anaf i’r pen a achosodd y farwolaeth.