Gerry Adams, Sinn Fein
Mae’r SDLP wedi dweud nad ydyn nhw’n barod i ymgyrchu ochr yn ochr â Sinn Fein yn ystod yr ymgyrch etholiadol.

Daw’r cyhoeddiad wedi i’r DUP a’r UUP gytuno i gael un ymgeisydd rhyngddyn nhw mewn pedair etholaeth – Dwyrain Belfast, Gogledd Belfast, Newry ac Armagh, a Fermanagh a De Tyrone.

Nod y cytundeb yw cynyddu nifer yr unoliaethwyr yn San Steffan wrth i’r posibilrwydd o senedd grog gynyddu.

Dywedodd ymgeisydd yr SDLP yng Ngogledd Belfast, Alban Maginness: “Mae ein safbwynt ni’n glir iawn, dydyn ni ddim yn dod i gytundebau sectyddol.”

Unoliaethwyr “cul”

Galwodd Sinn Fein ar genedlaetholwyr i uno yn wyneb “agenda sectyddol a cheidwadol gul” yr unoliaethwyr.

Wrth ymateb i’r cytundeb rhwng y DUP a’r UUP, dywedodd arweinydd y DUP, Peter Robinson: “Dyma’r cytundeb etholiadol mwyaf cynhwysfawr rhwng ein dwy blaid yn ystod y 29 o flynyddoedd diwethaf.”

Mae’r DUP eisoes wedi dweud eu bod nhw’n barod i gefnogi Llywodraeth Prydain mewn senedd grog pe bai nhw’n barod i ddileu’r dreth lloftydd, yn gwarantu gwariant ar amddiffyn, ac yn tynhau ffiniau’r Deyrnas Unedig.