Gwaith Sellafield
Mae’r gost o ddadgomisiynu a glanhau safle niwclear Sellafield yn Swydd Cumbria wedi codi £5 biliwn i £53 biliwn, yn ôl adroddiad newydd.
Yn ôl y Swyddfa Cofnodion Cenedlaethol, mae’r gost wedi cynyddu £15 biliwn ers 2010.
Rhybuddiodd cadeirydd Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus San Steffan, Margaret Hodge, fod y gwaith hefyd yn cymryd mwy o amser na’r disgwyl.
“Nid yn unig y mae gwaith yr awdurdod yn Sellafield yn costio mwy, ond mae hefyd yn cymryd llawer iawn hwy na’r cynllun ac ar gyfer 2014-15, mae’n edrych yn debygol y bydd y gwaith ar ei hôl hi am y bedwaredd flwyddyn yn olynol.”
Cost terfynu cytundeb
Roedd hi hefyd yn feirniadol o’r gost i’r pwrs cyhoeddus o ddod â chytundeb anfoddhaol i ben.
Daeth y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus i’r casgliad ym mis Chwefror y llynedd nad oedd y cytundeb yn cynnig gwerth am arian, ond dim ond ym mis Ionawr eleni y daeth i ben.
Yn ôl y Swyddfa Cofnodion Cenedlaethol roedd terfynu’r cyundeb wedi costio £430,000 – yn ôl Margaret Hodge ei bod yn “ffiaidd” fod y cyhoedd yn talu am ddirwyn y contract i ben.
Cyfarfod
Mae disgwyl i gwmni NMA, yr Adran Ynni, Sellafield a chonsortiwm NMP fynd gerbron y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus i ateb eu cwestiynau am y safle’r wythnos nesaf.
Yn ôl undeb GMB, mae “penderfyniadau anghredadwy” wedi cael eu gwneud ynglŷn â safle Sellafield.