Gwledydd Prydain yw’r cyntaf i gyfreithloni creu babi IVF gan ddefnyddio DNA tri pherson.
Gallai’r babi cyntaf i’w greu gan ddefnyddio’r dull newydd hwn gael ei eni’r flwyddyn nesaf ar ôl i Dŷ’r Arglwyddi roi sêl bendith i fesur newydd o 280 o bleidleisiau i 48, sy’n fwyafrif o 232.
Gallai’r ddeddfwriaeth newydd helpu hyd at 2,500 o fenywod sydd mewn perygl o drosglwyddo cyflyrau genetig niweidiol yn y mitocondria.
Ond mae gwrthwynebwyr yn rhybuddio y gallai’r ddeddfwriaeth arwain at greu babanod yn ôl y nodweddion y mae’r rhieni am iddyn nhw eu cael.
Ceisiodd yr Arglwydd Deben o’r Blaid Geidwadol ohirio’r ddeddfwriaeth newydd, ond cafodd y cais ei wrthod.
Ymhlith y rhai oedd yn gefnogol i’r ddeddfwriaeth newydd roedd Prif Weinidog Prydain David Cameron, arweinydd y Blaid Lafur Ed Miliband a’r Dirprwy Brif Weinidog Nick Clegg.
Dywedodd llefarydd ar ran Adran Iechyd San Steffan y byddai’r ddeddfwriaeth yn “rhoi gobaith i gannoedd o deuluoedd”.
Yn ôl y ddeddfwriaeth newydd, byddai gan fabanod DNA ei rieni ac ychydig o DNA gan roddwraig ddienw.
Er nad oes treialon wedi’u cynnal, mae arbenigwyr yn mynnu bod y dull newydd yn barod i’w ddefnyddio ar unwaith.