Yn dilyn adroddiadau bod tair merch wedi teithio o Brydain i Syria i ymladd gyda’r Wladwriaeth Islamaidd, mae tad un o’r merched wedi apelio arni i ddychwelyd adref.

Gadawodd Amira Abase, 15, ei chartref fore Mawrth gan ddweud wrth ei theulu ei bod hi’n mynd i briodas.

Yn hytrach, mae lle i gredu ei bod hi wedi teithio i faes awyr Gatwick er mwyn hedfan i Dwrci ac yna i Syria, ynghyd â dwy ferch arall – Shamima Begum, 15, a Kadiza Sultana, 16.

Fe fu un o’r merched yn cyfathrebu ag Aqsa Mahmood, dynes sy’n briod ag un o filwyr y Wladwriaeth Islamaidd, ar Twitter ac mae lle i gredu bod y tair merch wedi cael eu radicaleiddio ganddi.

Dywed teulu Mahmood fod gan yr awdurdodau “gwestiynau difrifol” i’w hateb ynghylch gweithredoedd eu merch.

‘Methu stopio crio’

Wrth ymbil ar ei ferch i ddychwelyd adref, dywedodd Abase Hussen fod Amira wedi ymddwyn “mewn modd arferol” cyn iddi ddiflannu.

Ychwanegodd nad yw’r teulu wedi stopio crio ers iddi adael y cartref teuluol.

“Doedd dim arwyddion i’w hamau hi o gwbl.

“Dywedodd hi, ‘Dadi, dwi ar hast’”.

Ychwanegodd nad oedd ei merch wedi trafod gwleidyddiaeth na Syria gyda’i theulu.

“Fyddai hi ddim yn meiddio trafod rhywbeth fel’na gyda ni. Mae hi’n gwybod beth fyddai’r ateb.

“Rydyn ni’n ddigalon, ac mae’n achosi straen. Y neges sydd gyda ni i Amira yw iddi ddod adref. Rydyn ni’n gweld dy eisiau di. Allwn ni ddim stopio crio. Meddylia ddwywaith. Paid mynd i Syria.”

“Mae’r hyn mae hi’n ei wneud yn nonsens llwyr. Cofia ein bod ni’n dy garu di. All dy chwaer a dy frawd ddim stopio crio.”

Ond dywedodd ei fod yn byw mewn gobaith y bydd ei ferch gartref yn fuan.