Byddai Llywodraeth Lafur ar ôl yr etholiad cyffredinol nesa yn mynd i’r afael ag iaith homoffobig a bwlio mewn ysgolion yn Lloegr, meddai llefarydd y blaid dros addysg heddiw.

Cyhoeddodd Tristram Hunt AS y cynllun i ddileu “bwlio lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol” mewn ysgolion, a byddai’n ei gwneud yn ofynnol i bob athro newydd gael eu hyfforddi i fynd i’r afael â bwlio homoffobig.

Byddai’r cynlluniau hefyd yn gwneud addysg rhyw a pherthynas yn orfodol ym mhob ysgol.

Wrth gyhoeddi’r cynllun mewn ysgol yn nwyrain Llundain heddiw, cafodd gefnogaeth gan yr actor ac ymgyrchwr Christian Condou – sydd yn hoyw ei hun ac a fu’n chwarae rhan y fydwraig hoyw Marcus Dent yn Coronation Street.

Dywedodd Tristram Hunt fod y defnydd o iaith homoffobig a mathau eraill o fwlio homoffobig yn “niweidio cyfleoedd cymaint o bobl ifanc.”

Ychwanegodd ei fod yn cael “effaith dyddiol sy’n cyfyngu dysgu, ac yn achosi niwed tymor hir i bobl.”

Dywedodd hefyd fod parhad homoffobia mewn ysgolion yn rhan o etifeddiaeth deddfwriaeth Adran 28 a gyflwynwyd gan Margaret Thatcher yn y 1980au. Roedd y ddeddfwriaeth yn gwahardd awdurdodau lleol ac ysgolion rhag “hyrwyddo” cyfunrhywiaeth, ac fe’i diddymwyd gan y Blaid Lafur o dan arweinyddiaeth Tony Blair.

Mae ffigurau a gyhoeddwyd gan Stonewall yn amcangyfrif bod 215,000 o ddisgyblion lesbiaidd, hoyw a deurywiol mewn ysgolion. O’r rhain bydd tua 70,000 yn dioddef yn eu gwaith ysgol, 52,000 yn absennol o’r ysgol a 37,000 yn newid eu cynlluniau addysgol mewn ymateb i fwlio homoffobig.