Bedd Alexander Litvinenko
Mae disgwyl i weddw’r ysbïwr o Rwsia, Alexander Litvinenko, roi tystiolaeth yn yr ymchwiliad cyhoeddus i’w farwolaeth heddiw.
Fe fydd Marina Litvinenko yn rhoi tystiolaeth yn y Llysoedd Barn Brenhinol mwy nag wyth mlynedd ers marwolaeth ei gwr.
Bu farw Alexander Litvinenko, 43, mewn ysbyty yn Llundain bron i dair wythnos ar ôl iddo yfed te oedd wedi’i wenwyno gyda poloniwm-210, wrth iddo gwrdd â dau ddyn o Rwsia yng ngwesty’r Millennium yn Llundain.
Roedd un o’r dynion yn gyn swyddog gyda’r KGB ac mae’n debyg bod y ddau yn parhau yn Rwsia.