Mae cwmni ynni SSE wedi cyhoeddi y bydd yn gostwng prisiau nwy o 4.1% o 30 Ebrill.

Dyma’r cyhoeddiad diweddaraf gan un o’r chwe chwmni ynni mawr, er y bydd gostyngiad SSE yn dod i rym yn llawer hwyrach na’r cwmnïau eraill – mae disgwyl i Nwy Prydain ostwng ei brisiau o 5% o 27 Chwefror.

Ym mis Mawrth roedd SSE wedi rhoi addewid y byddai’n rhewi prisiau tan fis Ionawr 2016 ar ôl cyhoeddi y byddai prisiau nwy a thrydan yn cynyddu 8.2% y flwyddyn flaenorol.

Cyhoeddodd SSE heddiw y byddai’r prisiau’n cael eu rhewi tan fis Gorffennaf 2016.