Eddie Redmayne yn ennill Golden Globe
Fe fydd yr actor Eddie Redmayne yn mynd ben ben gydag un o’i ffrindiau gorau, Benedict Cumberbatch, am deitl yr Actor Gorau yn seremoni wobrwyo’r Oscars eleni.

Mae’r ddau wedi’u henwebu yn yr un categori a rhai o fawrion Hollywood – Michael Keaton, Steve Carell a Bradley Cooper.

Mae Eddie Redmayne eisoes wedi ennill gwobr Golden Globe am ei bortread o’r gwyddonydd Stephen Hawking yn y ffilm The Theory Of Everything. Cafodd Benedict Cumberbatch hefyd ei enwebu am Golen Globe am ei ran yn y ffilm The Imitation Game.

Felicity Jones (The Theory Of Everything), Rosamund Pike (Gone Girl), Reece Witherspoon (Wild), Julianne Moore (Still Alice) a Marion Cotillard (Two Days) fydd yn cystadlu am deitl yr Actores Orau.

Mae’r cyfansoddwr Ffrengig, Alexandre Desplat, wedi’i enwebu am ei gerddoriaeth ar gyfer y ffilmiau The Grand Budapest Hotel a The Imitation Game.

Mae rhestr lawn o’r enwebiadau yma.