Eddie Redmayne yn ennill ei Golden Globe neithiwr
Roedd hi’n noson euraidd i actorion y DU yng ngwobrau’r Golden Globes neithiwr, gydag Eddie Redmayne a Joanne Froggatt yn cipio gwobrau yn y seremoni yn Hollywood.

Fe gurodd Eddie Redmayne, 33, gystadleuaeth gref gan actorion fel Benedict Cumberbatch i gipio’r tlws am yr actor gorau mewn drama am ei bortread o’r ffisegydd Stephen Hawking yn y ffilm The Theory Of Everything.

Fe wnaeth actores Downton Abbey, Joanne Froggatt, 34, hefyd ennill un o wobrau cynta’r noson wrth iddi gael ei henwi yn actores gynorthwyol orau mewn cyfres deledu am ei rôl fel y forwyn hoffus Anna Bates yn y ddrama gyfnod.

Ac aeth y wobr am yr actores orau mewn drama deledu i actores Luther, Ruth Wilson, 32, am ei rôl yn The Affair wnaeth hefyd ennill y wobr am y ddrama deledu orau.

Roedd newyddion da i’r Americanwr Kevin Spacey hefyd, enillodd y wobr am yr actor gorau mewn drama deledu am ei berfformiad yn The House of Cards.

Y ffilm Boyhood, a gymerodd 12 mlynedd i’w gwneud, a enillodd y prif wobrau am y ffilm orau, drama orau a’r cyfarwyddwr gorau.