Adeilad MI5
Mae pennaeth gwasanaeth cudd MI5 wedi rhybuddio bod grŵp o eithafwyr al Qaida yn cynllwynio “ymosodiad mawr” ar y Gorllewin ac na allan nhw atal pob bygythiad.

Wrth i ymgyrch chwilio enfawr gael ei chynnal yn Ffrainc yn dilyn ymosodiad brawychol ar swyddfa Charlie Hebdo, dywedodd Andrew Parker bod trafnidiaeth gyhoeddus a safleoedd eiconig ymysg y targedau mewn “sawl cynllwyn” gan al Qaida.

Y gred yw bod y cynlluniau gan eithafwyr o Syria, sydd yn debygol o dargedu Prydain, yn cynnwys tanio bomiau trwy’r awyr a saethu at gynulleidfaoedd mewn llefydd prysur.

Tua 50 o uwch-swyddogion al Qaida dan arweinyddiaeth y pennaeth Ayman al-Zawahiri, mewn grŵp o’r enw Khorasan, sy’n cael eu hamau o fod y tu ôl i’r cynllunio.

Bwlch cynyddol

Wrth siarad ym mhencadlys MI5 yn Thames House ddoe, dywedodd Andrew Parker: “Rydym yn gwybod bod grŵp o frawychwyr al Qaida yn Syria yn cynllunio ymosodiad a fydd yn anafu nifer o bobol yn y Gorllewin.

“Mae eithafwyr Islamaidd o Brydain yn parhau i deithio i De Asia a’r gwelydd Arabaidd er mwyn cael ei hyfforddi i ladd.

Ychwanegodd Andrew Parker mae ei bryder mwyaf yw’r “bwlch cynyddol rhwng y bygythiadau heriol a’r gallu i ddelio a nhw.”