Mae dyn 63 oed wedi cael ei anafu ar ôl i ddyn arall ymosod arno ym maes parcio Tesco yn Dorset.

Cafodd ei daro yn ei wyneb ar ôl i gar arall dynnu allan o le parcio o flaen ei gar yn y siop rhwng Ludwell a Shaftesbury.

Bu’n rhaid i’r dyn 63 oed frecio’n sydyn cyn i’r gyrrwr arall ei dynnu drwy ffenest ei gar.

Cafodd ei ddilyn gan y gyrrwr arall i ran arall o’r maes parcio cyn yr ymosodiad, a’i daro’n ddirybudd.

Dioddefodd anafiadau i’w freichiau a’i wyneb.

Mae Heddlu Dorset wedi apelio am wybodaeth.