Stormont
Mae pleidiau Belffast wedi taro bargen ar ddiwygio’r system les fydd yn helpu rhyddhau ychydig o’r tensiwn gwleidyddol yng Ngogledd Iwerddon.

Nawr, fe fydd y Prif Weinidog David Cameron yn ymateb i’r cynigion fel rhan o drafodaethau ehangach sy’n ymwneud â materion sydd heb eu datrys ers y broses heddwch.

Mae’r weinyddiaeth yn Stormont yn wynebu toriadau o £200 miliwn i’w chyllideb oni bai fod mesurau gafodd eu gosod gan San Steffan i leihau costau budd-daliadau yn cael eu cyflwyno yng Ngogledd Iwerddon.

Mae undebau ac arweinwyr busnes wedi dweud y gall y mesurau newydd effeithio ar athrawon, myfyrwyr a’r gwasanaeth iechyd.

Rhannu grym

Mae’r pŵer yn Stormont yn cael ei rannu rhwng y ddwy blaid fwyaf – y gwerinaethwyr Sinn Fein a’r Unoliaethwyr Democrataidd.

Mae Sinn Fein yn gwrthwynebu’r newidiadau i’r budd-daliadau gan honni y byddai’n effeithio’r rhai sydd fwyaf agored i niwed.

Dadl yr unoliaethwyr yw y byddai peidio rhoi’r diwygiadau ar waith yn gweld Gogledd Iwerddon yn colli tua £200 miliwn mewn cosbau grant gan Lwyodraeth y DU.

Ond ar ôl deg wythnos o drafodaethau, dywedodd y dirprwy brif weinidog o Sinn Fein, Martin McGuinness, heddiw ei fod yn optimistaidd.