Y Parchedig Libby Lane
Mae Eglwys Loegr wedi cyhoeddi’r bore ma mai’r Parchedig Libby Lane fydd ei hesgob benywaidd cyntaf.

Daw’r cyhoeddiad fis ar ôl i fwyafrif o aelodau’r Synod Gyffredinol gymeradwyo’r ddeddfwriaeth yn swyddogol.

Mae’r Parchedig Libby Lane, sy’n 48 oed, wedi ei hethol i fod yn Esgob Stockport yn esgobaeth Gaer. Bydd hi’n cael ei chysegru yn swyddogol mewn seremoni ar 26 Ionawr.

Cafodd ei hordeinio yn offeiriad yn 1994 ac mae hi wedi dweud bod cyhoeddiad yr Eglwys yn “annisgwyl” ond yn “gyffrous iawn”.

“Ar y diwrnod hanesyddol yma wrth i Eglwys Loegr gyhoeddi ei hesgob benywaidd cyntaf, rwy’n ymwybodol iawn o’r rhai hynny sydd wedi bod o fy mlaen i, dynion a merched, sydd am ddegawdau wedi edrych ymlaen at y foment hon.

“Mae’n annisgwyl ond yn gyffrous iawn ac rwy’n ddiolchgar i Dduw.”

Ar 12 Medi’r llynedd, fe wnaeth aelodau o fwrdd llywodraethu’r Eglwys yng Nghymru bleidleisio o blaid yr un ddeddfwriaeth.