Mae gofalwr anifeiliaid yn sw Whipsnade wedi cael ei anafu’n ddifrifol yn dilyn ymosodiad gan rhinoseros.

Cafodd y dyn, sydd yn ei 50au, anafiadau i’w frest, ei stumog a’i belfis y bore ma, ac fe gafodd ei gludo i Ysbyty Addenbrooke’s yng Nghaergrawnt ar ôl bod mewn dŵr am gryn amser.

Dywedodd llefarydd ar ran Gwasanaeth Ambiwlans Dwyrain Lloegr fod y dyn wedi derbyn nifer o anafiadau a’i fod mewn cyflwr difrifol.

Dywedodd llefarydd ar ran yr ambiwlans awyr a’i gludodd i’r ysbyty ei fod wedi derbyn triniaeth am ei boen.

Dywedodd Heddlu Swydd Bedford eu bod nhw wedi cael eu galw i’r sŵ i roi cymorth i’r gwasanaeth ambiwlans.