Richard Branson - wedi'i ysgwyd gan y drychineb
Mae twristiaeth y gofod wedi diodde’ “ergyd anferth” heddiw, wedi i un o rocedi prototeip y gwr busnes, Richard Branson, ffrwydro yn yr awyr uwchben anialwch yng Nghaliffornia.

Roedd yn cymryd rhan mewn profion ar y pryd. Fe laddwyd un o’i pheilotiaid, ac fe anafwyd y llall yn ddifrifol.

Mae darnau o’r roced i’w gweld wedi’u gwasgaru ar hyd a lled Anialwch Mojave, ac mae ymchwiliad ar droed i geisio sefydlu achos y ddamwain.

Fe ffrwydrodd SpaceShipTwo cwmni Virgin Galactic wedi iddi gael ei rhyddhau gan awyren yn uchel iawn yn yr awyr tua 120 milltir i’r gogledd o ganol dinas Los Angeles.

Mae Syr Richard Branson, y biliwnydd sy’n berchen y cwmni Virgin ac sydd wedi bod yn arwain y ffordd yn y ras i geisio sefydlu rhyw fath o “dwristiaeth” yn y gofod, yn dweud ei fod wedi’i “ysgwyd” gan y drychineb.