Mae ymchwiliad llofruddiaeth ar y gweill, wedi i ddyn yn ei arddegau gael ei drywanu i farwolaeth y tu allan i siop bob-peth yn ne Llundain.

Fe gafodd yr heddlu eu galw wedi adroddiadau fod rhywun wedi’i drywanu yn Pilgrimage yn ardal Borough toc cyn 2.30yb.

Yn ol llefarydd ar ran Scotland Yard, fe ddaeth Ambiwlans Llundain ac Ambiwlans Awyr i’r fan, ond fe fethon nhw ag achub bywyd y dyn 18 oed.