Cafodd bron i un miliwn o docynnau eu gwerthu ar gyfer Cwpan Rygbi’r Byd pan ddechreuodd y broses geisiadau fis diwethaf.

Yn ystod y cyfnod gwerthu cychwynnol, roedd mwy na phum miliwn o geisiadau am docynnau – y nifer uchaf o geisiadau erioed.

Bydd tocynnau ar gyfer 23 o 48 o gemau yn cael eu gwerthu trwy dynnu enwau allan o’r het.

Bydd y ceisiadau aflwyddiannus y tro hwn yn cael y flaenoriaeth yn yr ail rownd ddiwedd mis Tachwedd.

Roedd y gemau rhwng Cymru a Lloegr a Chymru yn erbyn Awstralia yn Twickenham ymhlith y gemau oedd wedi apelio fwyaf at gefnogwyr.

Cafodd mwy na 340,000 o docynnau eu gwerthu yng Nghymru a Lloegr trwy’r Rhaglen Rygbi Gymunedol, sy’n darparu tocynnau i glybiau lleol.

Mae’r holl docynnau ar gyfer blychau lletygarwch yn Twickenham wedi’u gwerthu.