Morrissey
Mae cyn ganwr y Smiths wedi datgelu mewn cyfweliad ei fod yn cael triniaeth am ganser ac y gallai ymddeol o fyd cerddoriaeth.

Mae’r canwr eisoes wedi gorfod canslo cyfres o gigs yn yr Unol Daleithiau eleni ar ôl datgelu ei fod yn cael triniaeth am gyflwr sydd, mewn achosion prin, yn gallu arwain at ganser.

Mewn cyfweliad gyda’r papur newydd Sbaeneg, El Mundo dywedodd Morrissey: “Os rwy’n marw, rwy’n marw. Ac os nad ydw i, dwi ddim. Ar hyn o bryd rwy’n teimlo’n dda.

“Rwy’n ymwybodol nad ydw i’n edrych yn iach mewn lluniau diweddar, ond dyna beth mae salwch yn ei wneud. Dydw i ddim yn mynd i boeni am hynny, na’i orffwys pan fydda’i wedi marw.”

Cafodd World Peace Is None of Your Business, albwm unigol cyntaf Morrissey ers pum mlynedd, ei ryddhau ym mis Gorffennaf ac mae ar hyn o bryd ar daith Ewropeaidd.

Dywedodd Morrissey ei fod wedi dechrau ysgrifennu nofel a’i fod yn ystyried ysgrifennu’n llawn amser.