Mae arbenigwyr wedi beirniadu sylwadau gan gylchgrawn meddygol blaenllaw sy’n dweud fod nifer y marwolaethau o ganlyniad i Ebola yn “dila” o’i gymharu â’r hyn fydd cynhesu byd eang yn ei achosi.

Mae’r British Medical Journal (BMJ) yn galw ar Sefydliad Iechyd y Byd i gyhoeddi bod cynhesu byd-eang yn “argyfwng rhyngwladol” sydd am achosi miloedd o farwolaethau ledled y byd.

Mewn erthygl yr wythnos hon mae’r Golygydd, Dr Fiona Godlee, hefyd yn galw am “ddysgu meddygon i fod yn llysgenhadon yn erbyn newid hinsawdd”.

Ond yn ôl cyfarwyddwr Fforwm Polisi Cynhesu Byd Eang, mae sylwadau’r BMJ yn “or-frawychus”.

Bygythiad

Dadl y golygydd Dr Fiona Godlee yw bod angen i Sefydliad Iechyd y Byd ddatgan bod cynhesu byd eang yn argyfwng rhyngwladol am ei fod yn fygythiad i ddynoliaeth:

“Fe fydd y marwolaethau sy’n cael eu hachosi gan Ebola, mor drasig ag ydyn nhw, yn edrych yn dila o’i gymharu gyda’r llanast y gallwn ei ddisgwyl ar gyfer ein plant os nad yw’r byd yn gwneud unrhyw beth am gynhesu byd eang. Mae angen gweithredu ar frys.”

Ond yn ôl Dr Benny Peiser o Fforwm Polisi Cynhesu Byd Eang, fe fyddai Sefydliad Iechyd y Byd yn dod yn destun jôc os byddai’n gwrando ar alwadau’r BMJ:

“Mae’r galwadau yma dros ben llestri ac yn cael eu gwneud gan olygydd o’r blaid werdd sy’n ceisio dychryn pobol,” meddai wrth y Daily Mail.

“Mae gwahaniaeth mawr rhwng beth maen nhw’n ei ddweud a realiti.”