Mae’r Uchel Lys wedi gwrthod her munud ola’ i benderfyniad Llywodraeth y Deyrnas Unedig i ganiatau i’r cyfnod nesa’ o ladd moch daear i fynd yn ei flaen heb fod dan wyliadwraeth panel o arbenigwyr annibynnol.

Roedd elusen The Badger Trust wedi gobeithio y byddai’r Uchel Lys yn rhoi bloc ar yr ymgyrch i saethu moch daear yn Swydd Gaerloyw ac yng Ngwlad yr Haf oni bai fod panel annibynnol yn ei le.

Ond mae’r Barnwr Kenneth Parker wedi gwrthod y cais am adolygiad barnwrol.

Mae’r adran amaeth (DEFRA) yn ceisio profi a fydd y drefn o saethu moch daear yn effeithiol wrth drin y nifer o achosion  TB ymysg da byw.