Mae ymchwiliad ar y gweill wedi i lori yn cynnwys 20 o bobol wedi’i darganfod mewn gwasanaethau ar fin priffordd yn ne-orllewin Lloegr.

Mae plismyn o lu Avon a Somerset yn gweithio gyda swyddogion mewnfudo wedi’r darganfyddiad yn Ilminster, ger Taunton.

“Rydyn ni wedi stopio lori ar fin yr A303 tuag 1yp heddiw,” meddai llefarydd ar ran yr heddlu. “Roedd 20 o bobol yn y lori, ac maen nhw ar hyn o bryd yn cael eu trin gan barafeddygon am effeithiau diffyg dwr.

“Mae eu hiechyd nhw’n bwysig iawn wrth i ni geisio creu darlun o’r hyn ddigwyddod, ac o lle maen nhw’n dod.”