Mae dau ddinesydd Prydeinig wedi’u cludo i’r ysbyty, ac mae 15 o bobol eraill ar goll wedi i gwch twristaidd suddo tra’n teithio rhwng ynysoedd yn Indonesia.

Roedd y grwp yn teithio rhwng Lombok ac Ynysoedd Komodo yn nwyrain Indonestia, pan suddodd y cwch tua 7yh neithiwr (amser Indonesia).

Fe gafodd deg o bobol eu hachub – o Seland Newydd, Sbaen, Ffrainc, yr Almaen a’r Iseldiroedd – yn ogystal â’r ddau Brydeiniwr.

Ond does neb yn gwybod be’ ddigwyddodd i’r 15 arall oedd ar fwrdd y cwch ac yn dod o wledydd amrywiol. Dyw hi ddim yn glir, chwaith, p’un ai oedd yna bobol eraill o wledydd Prydain ar y cwch.

Mae ynys Lombok i’r dwyrain o Bali, ac yn gartre’ i 3.1 miliwn o bobol. Mae’n denu miloedd o dwristiaid bob blwyddyn.