Mae Rolf Harris wedi ceisio am yr hawl i apelio wedi iddo’i gael yn euog o ymosodiadau anweddus.

Cafodd y cerddor a’r artist 84 oed ei garcharu am bum mlynedd a naw mis am 12 ymosodiad anweddus, gan gynnwys un ar ferch wyth oed a ffrind i’w ferch dros gyfnod o 16 o flynyddoedd.

Mae disgwyl iddo fod dan glo yn gosb am y troseddau gyflawnwyd rhwng 1968 a 1986.

Mae’r Llys Apêl wedi derbyn ei gais am yr hawl i apelio, ac yn ystyried y mater.