Mae dau gyn-newyddiadurwr y News of the World wedi cael eu cyhuddo o gynllwynio i hacio ffonau.

Cafodd y cyn-olygydd erthyglau nodwedd, Jules Stenson a chyn-ddirprwy olygydd y papur, Neil Wallis eu harestio fel rhan o ymchwiliad Pinetree.

Honnir i’r ddau fod wedi cynllwynio i wrando ar negeseuon ffôn rhwng 2003 a 2007.

Byddan nhw’n ymddangos gerbron Llys Ynadon San Steffan ar Awst 21.

Cadarnhaodd Gwasanaeth Erlyn y Goron fod digon o dystiolaeth i ddwyn achos yn erbyn y ddau.

Ond ni fydd chwech newyddiadurwr arall yn wynebu cyhuddiadau wedi iddyn nhw gael eu rhyddhau.