Mae Heddlu County Durham yn chwilio am ddyn adawodd un o’i drenyrs o’i ôl wrth geisio dwyn o siop Co-op neithiwr.

Maen nhw’n gwneud apêl am y lleidr ‘Sinderela’ a welwyd yn Stanley tua 9.30yh neithiwr.

Am resymau sydd ddim eto’n glir, fe adawodd y dyn esgid redeg Nike Air Max o liw coch a du yn y siop, cyn dianc.

Mae’r heddlu wedi rhoi llun o’r esgid ar wefan gymdeithasol Twitter, yn y gobaith y bydd rhywun yn ei nabod hi.