Mae dyn 45 mlwydd oed yn ymladd am ei fywyd, wedi ymosodiad ar y stryd yng nghanolbarth Lloegr.

Mae Heddlu Swydd Nottingham yn apelio am dystion wedi i ddyn gael ei dargedu yn Commercial Road, Bulwell, tua 6.15yh neithiwr.

“Mae’r dioddefwr wedi ei gludo i’r ysbyty, lle mae mewn cyflwr difrifol iawn, ond sefydlog,” meddai llefarydd ar ran yr heddlu.