Gorymdaith gan un o urddau oren Gogledd Iwerddon (llun: Dean Molyneaux CCA 2.0)
Mae ofnau am argyfwng gwleidyddol yng Ngogledd Iwerddon wrth i unoliaethwyr gael eu cythruddo gan gyfyngiadau ar orymdaith yr Urdd Oren yn Belffast.

Roedd Comisiwn Gorymdeithiau Gogledd Iwerddon wedi penderfynu gwahardd gorymdeithas Gogledd Belffast rhag mynd heibio i’r gymdogaeth genedlaetholgar, Ardoyne, ar 12 Gorffennaf – diwrnod pwysicaf y tymor gorymdeithio.

Mae helyntion wedi digwydd bob tro y mae’r Urdd Oren wedi cael hawl i orymdeithio heibio’r Ardoyne dros y blynyddoedd diwethaf.

Dywedodd Ysgrifennydd Cyffredinol yr Urdd Oren, Drew Nelson, y dylai eu hymateb i’r gwaharddiad fod am gyfnod hirach na hyd y tymor gorymdeithio blynyddol. “Dw i’n disgwyl y bydd adwaith y teulu unoliaethol a theyrngarol yn ehangu i fyd gwleidyddiaeth llywodraethu,” meddai.

‘Dawnsio i diwn yr Urdd Oren’

Mae Prif Weinidog Gogledd Iwerddon, Peter Robinson, wedi rhybuddio y gallai sefydliadau’r llywodraeth fod o dan fygythiad.

Eisoes, mae’r pleidiau unoliaethol wedi cerdded allan o drafodaethau trawsffiniol gyda’r Weriniaeth yn Nulyn mewn protest.

Maen nhw’n flin gyda phenderfyniad y Comisiwn Gorymdeithiau ac yn ei gyhuddo o ildio i fygythiadau o drais, ond mae Sinn Fein a’r SDLP yn cyhuddo’r pleidiau unoliaethol o ‘ddawnsio i diwn yr Urdd Oren’.