Mae dyn 26 oed o Reading wedi marw heddiw wedi iddo gymryd cyffur yn Glastonbury.

Cafodd ei gludo i ysbyty ym Mryste nos Fercher ac amheuir iddo ddiodde’ gwaeledd ar ôl cymryd ketamine, cyffur sy’n cael ei ddefnyddio yn anesthetig ar geffylau.

Mae’r heddlu wedi rhoi gwybod i’r teulu am y farwolaeth, sydd ddim yn cael ei thrin fel un amheus.

Bu farw dynes 67 oed yn Glastonbury nos Fercher dan amodau naturiol.

Mae’r ŵyl yn agor yn swyddogol heddiw a bydd Dolly Parton a Metallica ymysg y prif atyniadau.