David Cameron
Fe fydd David Cameron yn cynnal trafodaethau heddiw gydag ymgynghorwyr diogelwch i drafod yr argyfwng yn Irac.

Mae wedi rhybuddio bod gwrthryfelwyr Islamaidd sy’n herio llywodraeth Baghdad yn peri “bygythiad gwirioneddol i’n gwlad”.

Bydd y Prif Weinidog yn cadeirio cyfarfod o’r Cyngor Diogelwch Cenedlaethol (NSC) wrth i’r grŵp eithafol Isis barhau i feddiannu nifer o drefi yn Irac.

Mae’r argyfwng yn Irac wedi gwella’r berthynas rhwng America ac Iran a ddoe, fe gyhoeddodd yr Ysgrifennydd Tramor William Hague bod cynlluniau ar y gweill i ail-agor llysgenhadaeth Prydain yn Tehran, dair blynedd ers iddi gau yn dilyn ymosodiad gan brotestwyr.