Gall heddiw fod yn ddiwrnod poethaf y flwyddyn i rai ardaloedd yng Nghymru, yn ôl rhagolygon y tywydd.

Mae disgwyl y gall y tymheredd mewn rhai mannau gyrraedd 26.5C, y poethaf y mae wedi bod ym Mhrydain eleni.

Yn ôl rhagolygwr o MeteoGroup mae disgwyl y bydd rhannau o dde Lloegr hefyd yn cael y gorau o’r tywydd poeth.

Mae’r tymheredd wedi bod yn gymharol uchel drwy gydol yr wythnos yma, gyda’r cyfartaledd hyd at bum gradd Celsius yn uwch na’r cyfartaledd ar gyfer mis Mehefin.

Nid yw’n newyddion cystal yn yr Alban a Gogledd Iwerddon, ble mae disgwyl i’r tywydd cymylog yno barhau.

Ond mae disgwyl y bydd y tywydd braf yn cilio erbyn y penwythnos, gyda rhywfaint o gawodydd a tharanau yn bosib mewn mannau.