Mae cyn-Lefarydd Ty’r Cyffredin, Betty Boothroyd, yn galw heddiw am weithredu brys er mwyn rhwystro dirywiad pellach yn adeiladwaith Palas San Steffan.

Mae hi’n mynnu cael dadl yn Nhy’r Arglwyddi er mwyn ystyried y “creisis” a’r “bygythiad i statws eiconig yr adeilad fel Safle Treftadaeth y Byd enwocaf gwledydd Prydain”.

Mae penderfyniad wedi’i ddrafftio eisoes i osod y safle ar restr Unesco o Safleoedd Treftadaeth y Byd sydd mewn peryg.

Fe fydd Unesco yn trafod y mater yn Qatar yr wythnos nesa’.

“Mae trafod yn rhemp ynglyn a chyflwr yr adeilad,” meddai Betty Boothroys, “ac mae pryderon go iawn am yr effaith y mae nifer cynyddol o adeiladau uchel sy’n cael eu codi ar lan afon Tafwys yn ei gael ar y tirlun.

“Mae’n bryd i’r Llywodraeth leisio’n glir ei chomitment i ddiogelu a chadw Palas San Steffan – fel canolbwynt ein democratiaeth, ac fel sumbol o’n treftadaeth genedlaethol.”