ddamwain ger Coldstream Llun:(Danny Lawson/PA Wire)
Cafodd tri o bobl eu lladd a chwech eu hanafu mewn dwy ddamwain yn ystod rali geir yn yr Alban.

Fe wnaeth ceir oedd yn cystadlu yn Rali Jim Clark ar y ffin rhwng yr Alban a Lloegr, daro’r gwylwyr mewn dwy ddamwain ar wahan, yn gyntaf ger Eccles tua dau o’r gloch prynhawn ddoe ac yna tua pedwar o’r gloch ger Coldstream.

Y ddamwain yma oedd yr un waethaf. Cafodd tri o bobl – un dyn ac un ddynes – eu lladd yn y fan a’r lle ac mae dyn arall yn ddifrifol wael yn Inffyrmari Frenhinol Caeredin.

Pump o bobl gafodd eu taro ger Eccles. Cafodd dyn a dynes eu trin am fân anafiadau ble digwyddodd y ddamwain, mae dyn arall mewn uned gofal dwys yng Nghaeredin a dau ddyn arall mewn ysbyty leol.

Chafodd gyrrwyr yr un o’r ddau gar eu hanafu.

Perygl

Mae nifer o bobl yn holi bellach pam fod pobl wedi cael sefyll mor agos at y râs gafodd ei chanslo ar ôl y ddawmain ger Coldstream, er bod y rhan yn ardal Eccles wedi cael ei gohirio ar ôl y ddamwain gyntaf.

Dywedodd y Prif Uwch Arolygydd Phil O’Kane o Heddlu’r Alban mai cyfrifoldeb y pwyllgor trefnu oedd diogelwch y ras.

“Ond mi wn bod y rali’n cael ei stiwardio yn dda a bod diogelwch yn rhan bwysig o’r cynllunio,” meddai.

Mae rhai gwylwyr wedi bod yn trafod y ddamwain ar Facebook.

Dywedodd un bod y bobl oedd yn eistedd mor agos at y gyffordd yn Eccles yn “ddewr”.

Hanes y rali

Mae’r rali yn cael ei chynnal yn flynyddol dros gyfnod o dridie ar fffyrdd cauedig yn ardal Duns a Kelso er cof am Jim Clark, y gyrrwr Fformiwla 1 o’r Alban laddwyd mewn damwain yn yr Almaen yn 1968.

Mae Prif Weinidog yr Alban, Alex Salmond, wedi cydymdeimlo efo’r teuluoedd y rhai laddwyd ac efo’r gwylwyr gafodd eu hanafu.

“Mae Rali Jim Clark yn ddigwyddiad blynyddol ers dros 40 mlynedd. Mae’n boblogaidd iawn yn ardal y ffin ac yn y gymuned ralio fydd, dwi’n gwybod, yn rhannu ein tristwch.”