Sinema
Mae ffilmio Star Wars: Episode VII wedi cychwyn yn Stiwdio Pinewood yn Buckinghamshire, gyda nifer o’r cast gwreiddiol.

Bydd Harrison Ford, Carrie Fisher a Mark Hamill yn ailafael yn eu cymeriadau ‘Han Solo, ‘Princess Leia’ a ‘Luke Skywalker’.

Daeth y ffilm Star Wars cyntaf i’r sinemas yn 1977 a bu’n llwyddiant ysgubol.

Bydd Anthony Daniels yn ôl fel ‘C3PO’, Peter Mayhew fel ‘Chewbacca’ a Kenny Baker yn rhan ‘R2-D2’.

Yn ogystal â’r hen wynebau cyfarwydd, bydd criw o actorion ifanc eitha’ anadnabyddus yn y ffilm newydd hefyd.

JJ Abrams, d dyn roddodd ail wynt yn hwyliau Star Trek, sy’n cyfarwyddo.

Mae disgwyl y bydd y ffilm i’w gweld adeg Nadolig 2015.