Bob Hoskins gyda'i wraig Linda
Mae’r actor Bob Hoskins wedi marw’n 71 oed.

Roedd yn dioddef o glefyd Parkinson a bu farw o niwmonia.

Roedd yn fwyaf adnabyddus am ei ran yn y ffilmiau Who Framed Roger Rabbit a The Long Good Friday.

Cafodd ei enwebu am Oscar yng nghategori’r Actor Gorau am ei ran yn y ffilm Mona Lisa.

Rhoddodd y gorau i actio yn 2012 ar ôl cael gwybod ei fod yn dioddef o glefyd Parkinson.

Mewn datganiad, dywedodd ei deulu eu bod nhw wedi “colli ein hannwyl Bob” neithiwr.

Mae’n gadael gwraig a phedwar o blant.

Wrth ddiolch am negeseuon o gydymdeimlad, gofynnodd y teulu am breifatrwydd i alaru.