Cyril Smith AS
Fe fydd yr heddlu yn ymchwilio i honiadau bod achosion o gam-drin rhywiol mewn ysgol, sy’n cael eu cysylltu â’r diweddar wleidydd Syr Cyril Smith, wedi cael eu celu.

Mae Heddlu Manceinion eisoes yn ymchwilio i honiadau o achosion hanesyddol o gam-drin yn Ysgol Knowl View yn Rochdale lle’r oedd AS y Democratiaid Rhyddfrydol yn llywodraethwr.

Heddiw, fe gyhoeddodd y prif gwnstabl Syr Peter Fahy y byddai ditectifs hefyd yn cynnal adolygiad i honiadau bod yr achosion wedi cael eu celu. Fe wnaed yr honiadau yn llyfr AS Llafur Rochdale, Simon Danczuk – Smile for the Camera: The Double Life of Cyril Smith.

Mae’n debyg bod naw o bobl wedi mynd at yr heddlu i ddweud eu bod nhw wedi cael eu cam-drin gan oedolion yn Knowl View o’r 1970au ymlaen.

Mae’r honiadau’n ymwneud ag o leiaf 11 o bobl.